Yn 2008, enillodd RWE npower renewables yr hawl i geisio am ganiatâd i adeiladu a datblygu fferm wynt yng Nghoedwig Clocaenog yng Ngogledd Cymru, ardal o coedtir sydd yn cael ei reoli gan Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r prosiect yn parhau i fod mewn cyfnod cynnar.
Bydd y prosiect arfaethedig o fewn siroedd Conwy a Sir Ddinbych, tua 13km i'r de o Ddinbych ac i'r gorllewin o lyn Brenig.
Mae ymchwil cynnar yn dangos, yn amodol ar fwy o arolygon amgylcheddol a thechnegol, a chynllunio, gellir gosod fferm wynt yn yr ardal ddatblygu sydd hyd at 85 megawatt (MW), gyda thyrbeini unigol a all gynhyrchu 2.5-3 MW.
Mae fferm wynt 85MW arferol yn medru creu digon o ynni i gyrraedd anghenion tua 38,000 o dai bob blwyddyn.
Dan Adran 36 y Ddeddf Trydan 1989, mae gofyn i bob fferm wynt dros 50MW geisio am ganiatâd oddi wrth Adran Egni a Newid Hinsawdd y llywodraeth.
Wrth drafod â rhanddeiliaid, mae RWE npower renewables ar hyn o bryd yn cadarnhau manylion yr Asesiad Effaith Amgylcheddol. Pwrpas yr ymchwil hwn yw i edrych ar holl effaith y fferm wynt arfaethedig ar yr ardal leol.
Mae'r awdurdodau lleol yn helpu i ddadansoddi canlyniadau yr ymchwil hwn. Mae mwy o wybodaeth ar gais RWE npower renewables am Fferm Wynt Clocaenog i'w ganfod ar y wê yma:
www.npower-renewables.com/clocaenogforest.